\u003cP\u003eDymaâr astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, aâr nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach aâr meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwiân fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd aâi gyfoeswyr, datgelir haenau newydd o ystyr syân cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.\u003c/P\u003e