Dyma'r ail gasgliad o waith R. Geraint Gruffydd, yn dilyn cyhoeddi 'Y Ffordd Gadarn' ym 2008. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o rai o'i ysgrifau pwysicaf ar y traddodiad Piwritanaidd a Methodistaidd yng Nghymru, sy'n gyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o hanes, llenyddiaeth a chrefydd Cymru yn y cyfnod modern.